Ceisiadau Grant

Bydd Ymddiriedolwyr yr Elusen yn ystyried ceisiadau am grantiau ar gyfer ystod eang o gynlluniau amgylcheddol – er mwyn bod yn llwyddiannus rhaid i’ch cais am grant gyflawni un o nodau’r Elusen a bod er lles y cymunedau o fewn dalgylch Elusen Dyffryn Peris, sef cefn deuddwr (watershed) dyffryn Seiont cyn belled a Phontrug. 

I ymgeisio am grant, darllenwch y Canllawiau Ymgeiswyr yn ofalus a chwblhewch y Ffurflen Gais ar gyfer Grwpiau Bychain, yn ddelfrydol gan ddefnyddio’r fersiwn arlein, neu os na fedrwch wneud hynny, ei hargraffu a’i phostio at Elusen Dyffryn Peris, d/o 11 Afon Rhos, Llanrug, Caernarfon, Gwynedd, LL55 4SE.

Cofiwch gynnwys y dogfennau a ganlyn fel rhan o’ch cais, os ydynt yn berthnasol.

- Copi o Gyfansoddiad eich sefydliad;
- Amcangyfrifon ysgrifenedig;
- Copi o’ch Cyfrifon diweddaraf sydd ar gael;
- Datganiad Banc;
- Tystiolaeth / llythyrau o gefnogaeth gymunedol ar gyfer y prosiect;
- Copi o ganiatâd cynllunio neu gydsyniad adeilad rhestredig;
- Tystiolaeth o fabwysiad y prosiect gan gorff arall.

Os oes angen i chi gysylltu â ni ynghylch eich cais, anfonwch e-bost at: cais@elusendyffrynperis.cymru